Dy bleidlais di a neb arall

Dy bleidlais di a neb arall

Pe bai rhywun yn gofyn i ti beth yw ystyr twyll etholiadol, fyddet ti'n gwybod? Mae'r blog hwn gan y Comisiwn Etholiadol yn nodi'r ffeithiau.

Pe bai ffrind yn gadael ei gerdyn pleidleisio gyda thi tra ei fod ar wyliau, fyddai'n iawn i ti bleidleisio ar ei ran? Neu pe bai rhywun yn ceisio dy ddychryn neu dy lwgrwobrwyo i bleidleisio mewn ffordd benodol, mae'n siŵr dy fod yn gwybod na ddylai hynny ddigwydd, ond a yw'n anghyfreithlon? 

Yr ateb yw na, ni fyddai'n dderbyniol i ti bleidleisio ar ran dy ffrind, byddai'n drosedd, oni bai dy fod wedi cofrestru i fod yn ddirprwy iddo (pleidleisio ar ei ran). Mae dychryn a llwgrwobrwyo yn weithgareddau anghyfreithlon.

P'un a fyddi di'n pleidleisio'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio neu'n cwblhau dy bleidlais bost gartref, mae'n bwysig mai dy bleidlais di a neb arall ydyw.
 

Ein hymgyrch


Rydym ni yn y Comisiwn Etholiadol wedi lansio ymgyrch newydd i helpu i atal twyll etholiadol cyn yr etholiad cyffredinol ar 12 Rhagfyr, gyda chefnogaeth yr elusen Taclo'r Tacle Crimestoppers.
 

Beth yw twyll etholiadol?

Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o sut i roi gwybod am dwyll etholiadol, mae'r ymgyrch hefyd yn nodi'r hyn a ystyrir yn dwyll etholiadol mewn gwirionedd.

Fel y nodwyd yn yr enghreifftiau yn ein cwestiynau uchod, gall troseddau gynnwys:
 
  • 'Dylanwad gormodol' (cyfeirir ato hefyd fel dychryn) lle mae person yn defnyddio neu'n bygwth defnyddio trais, grym neu ataliaeth yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol er mwyn darbwyllo unrhyw bleidleisiwr i bleidleisio mewn ffordd benodol neu i beidio â phleidleisio.
  • ‘Llwgrwobrwyo’ lle mae person yn cynnig unrhyw wobr yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol er mwyn darbwyllo unrhyw bleidleisiwr i bleidleisio mewn ffordd benodol neu i beidio â phleidleisio.
  • 'Cambersonadu' lle mae unigolyn yn pleidleisio fel rhywun arall. Gall hynny fod mewn gorsaf bleidleisio, drwy'r post neu drwy esgus bod yn ddirprwy rhywun.


Er bod yr achosion profedig o dwyll etholiadol yn gymharol brin, mae'n parhau i fod yn drosedd ddifrifol a gall yr unigolion sy'n ei chyflawni cael eu dedfrydu i gyfnod yn y carchar.
 

Yr hyn y dylet ei wneud os wyt ti wedi gweld twyll etholiadol

Os byddi di'n ei weld, rho wybod amdano.  Os bydd rhywun yn ceisio defnyddio pleidlais rhywun rwyt yn ei adnabod, ffonia elusen Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu rho wybod amdano ar-lein.

Noder: Os byddi di'n llenwi'r ffurflen ar-lein, cofia ddewis 'Twyll a ffugio' fel y math o drosedd a nodi 'Twyll Etholiadol' yn y blwch testun gwag ar gyfer cwestiwn 1. Nid oes angen i ti ddewis ymgyrch.

Bydd Crimestoppers yn trosglwyddo'r wybodaeth i swyddogion yn yr heddlu cywir heb ddatgelu pwy sy'n gwneud y gŵyn. 
 

Cwbl ddienw. Bob amser.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen ymgyrch twyll etholiadol Crimestoppers.